top of page
Lamplen silindr gwyn ecogyfeillgar golygfa flaen
Lamplen silindr gwyn ecogyfeillgar golygfa patrwm
Lamplen silindr gwyn ecogyfeillgar golygfa top
Lamplen silindr gwyn ecogyfeillgar golygfa gwaelod
Lamplen silindr gwyn ecogyfeillgar golygfa ochor
Lamplen silindr gwyn ecogyfeillgar golygfa gwaelod
Lamplen silindr gwyn ecogyfeillgar golygfa ystafell fyw
Lamplen silindr gwyn ecogyfeillgar golygfa ystafell fyw

Bloc-len

Mae Bloc-len yn cynnig addasiad newydd i’r lamplen silindr gan ddefnyddio dyluniad bachyn a rhigol sy'n osgoi’r angen am lud neu blastig wrth ei roi at ei gilydd. Mae pedair tudalen o bapur (dau dryloyw a dwy afloyw) yn cael eu gweu gyda'i gilydd hefo nodwyddau papur cyn eu bachu at ffrâm pren-ply. 

 

Bydd Bloc-len yn dod â chynhesrwydd a soffistigedigrwydd i'ch cartref, boed yn yr ystafell wely, ystafell fyw, neu ystafedd astudio. Mae'r dyluniad geometrig yn uno'r ffrâm a'r lamplen papur mewn arddull cyfoes a finimalaidd, sydd hefyd yn addurnol.

 

Mae delwedd orffenedig y lamplen wedi ei gyfoethogi gan y papur patrymog allanol, wedi'i wneud o fwydion di-glorin (ardystiwyd gan yr FSC) a grawn bragwr wedi'i ailgylchu. Mae'r nodwyddau papur wedi'u gwneud o 100% o bapur cywarch ac yn ychwanegu manyldeb addurniadol tra’n bod yn ymarferol.

 

Mae'r lamplen wedi'i rhoi at ei gilydd yn rhannol, gyda chyfarwyddiadau ar sut i orffen ei adeiladu.

Cynnwys y pecyn

1 x lamplen papur  

2 x nodwydd papur 

1 x ffrâm pren-ply

1 x taflen gyfarwyddiadau 

​Dimensiynau

diamedr cylch mewnol: 3 cm

diamedr y lamplen gyfan: 24.5 cm

hyd y lamplen: 29.5 cm

Pa fath o fwlb golau a gosodiad sydd eu hangen?

Mae Bloc-len wedi ei greu ar gyfer gosodiadau a bylbiau nenfwd, unai gyda Edison Screw E27 neu Bayonet Cap B22d. Rydym yn argymell defnyddio bylbiau LED 6- i 9-wat. Nid oes bwlb nag gosodiadau trydanol yn y pecyn.

Diogelwch tân

Mae'r ffrâm pren-ply wedi'i drochi mewn hylif gwrth-dân. Mae bwlch o leiaf 8cm rhwng y silindr-papur a'r bwlb, os defnyddir bwlb LED 6cm o led (neu lai).

Ail-gylchu

Gellir ailgylchu’r lamplen papur a’r nodwyddau cywarch yn eich bin ailgylchu cartref, a gellir mynd â’r ffrâm pren-ply i Ganolfan Ailgylchu leol (cyngor i drigolion y DU yw hwn; edrychwch am yr opsiynau ailgylchu perthnasol yng ngwledydd eraill).

bottom of page