top of page
Lamplen silindr melyn ecogyfeillgar golygfa flaen
Lamplen silindr melyn ecogyfeillgar golygfa patrwm
Lamplen silindr melyn ecogyfeillgar golygfa top
Lamplen silindr melyn ecogyfeillgar golygfa gwaelod
Lamplen silindr melyn ecogyfeillgar golygfa ochor
Lamplen silindr melyn ecogyfeillgar golygfa gwaelod
Lamplen silindr melyn ecogyfeillgar golygfa ystafell fyw
Lamplen silindr melyn ecogyfeillgar golygfa ystafell fyw

Diemwnt-len

Mae Diemwnt-len yn cynnig addasiad newydd i’r lamplen silindr gan ddefnyddio dyluniad bachyn a rhigol sy'n osgoi’r angen am lud neu blastig wrth ei roi at ei gilydd. Mae pedair tudalen o bapur (dau dryloyw a dwy afloyw) yn cael eu gweu gyda'i gilydd hefo nodwyddau papur cyn eu bachu at ffrâm pren-ply.

 

Bydd Diemwnt-len yn dod â chynhesrwydd a soffistigedigrwydd i'ch cartref, boed yn yr ystafell wely, ystafell fyw, neu ystafedd astudio. Mae'r dyluniad geometrig yn uno'r ffrâm a'r lamplen papur mewn arddull cyfoes a finimalaidd, sydd hefyd yn addurnol.

 

Mae'r papur melyn sorbet wedi'i wneud yn gynaliadwy yn y DU o ffibr pur sydd yn 100% Elfennol Di-Glorin ac sydd wedi'i ardystio gan yr FSC. Mae'r nodwyddau papur wedi'u gwneud o 100% o bapur cywarch ac yn ychwanegu manyldeb addurniadol tra’n bod yn ymarferol.

 

Mae'r lamplen wedi'i rhoi at ei gilydd yn rhannol, gyda chyfarwyddiadau ar sut i orffen ei adeiladu.

Cynnwys y pecyn

1 x lamplen papur  

2 x nodwydd papur 

1 x ffrâm pren-ply

1 x taflen gyfarwyddiadau 

​Dimensiynau

diamedr cylch mewnol: 3 cm

diamedr y lamplen gyfan: 24.5 cm

hyd y lamplen: 29.5 cm

Pa fath o fwlb golau a gosodiad sydd eu hangen?

Mae Diemwnt-len wedi ei greu ar gyfer gosodiadau a bylbiau nenfwd, unai gyda Edison Screw E27 neu Bayonet Cap B22d. Rydym yn argymell defnyddio bylbiau LED 6- i 9-wat. Nid oes bwlb nag gosodiadau trydanol yn y pecyn.

Diogelwch tân

Mae'r ffrâm pren-ply wedi'i drochi mewn hylif gwrth-dân. Mae bwlch o leiaf 8cm rhwng y silindr-papur a'r bwlb, os defnyddir bwlb LED 6cm o led (neu lai).

Ail-gylchu

Gellir ailgylchu’r lamplen papur a’r nodwyddau cywarch yn eich bin ailgylchu cartref, a gellir mynd â’r ffrâm pren-ply i Ganolfan Ailgylchu leol (cyngor i drigolion y DU yw hwn; edrychwch am yr opsiynau ailgylchu perthnasol yng ngwledydd eraill).

bottom of page