top of page

Dylunio Cynnyrch

Tra bod hi'n cwblhau MA mewn Dylunio Cynnyrch yn Ysgol Gelf Manceinion, dyfeisiodd Teleri ddau ddull o gynhyrchu lamplenni a gosodiadau papur. Y cyntaf yw torri stribedi papur yn denau fel y gwelir yn Fluid Shade, ac yr ail yw’r bachyn a rhigol mae hi'n ei defnyddio yn ei lamplenni pecyn fflat DIY silindr.

LEA_Fluid Shade_5.jpg
LEA_Fluid Shade_2.jpg

Fluid Shade

2022

Mae'r lamplen Fluid Shade wedi'i ysbrydoli gan rinweddau therapiwtig natur, goleuni a symudiad yn benodol. Mae'r stribedi papur yn hongian mewn tair haen o ffrâm pren-ply ac yn creu patrymau llifol wrth ymateb i newidiadau yn llif yr aer. Y canlyniad ynw canolbwynt myfyriol ac atyniadol.

Fluid Shade (cyfres liwgar)

2023

Roedd yr arddangosfa Oriel Fertigol yn gyfle i Teleri weithio gyda threfnwyr a churaduron yn Ysgol Gelf Manceinion i greu gosodid o saith silindr o bapur wedi'i dorri'n denau ac wedi'i gysylltu â fframiau patrymog geometrig. Wedi'i chyfarwyddo i beidio defnyddio goleuadau trydanol oherwydd amheuon costau ac iechyd a diogelwch, darganfu Teleri fod haen sengl o bapur wedi'i sleisio yn gadael golau naturiol drwodd ac yn gweithio'n dda gyda ffrâm addurniadol ac amrywiaeth o liwiau cynnes.

Coeden o Oleuni

2023

Crëwyd Coeden o Oleuni fel cais ar gyfer digwyddiadau a gwyliau goleuni. Mae’n defnyddio'r dulliau a ddefnyddir yn Fluid Shade, ond ar raddfa mwy, i greu profiad sy’n lleddfol a hudolus i’r gynulleidfa. Gellir arddangos un trydydd, dwy ran o dair neu goeden gyfan gan ddibynnu ar y nifer o fudiadau neu ddigwyddiadau sydd yn buddsoddi yn y prosiect. Mae ffrâm y goeden wedi ei greu o haenau o bren-ply sydd wedi ei siapio can torrwr laser ac wedi'i oleuo gan stribedi o oleuadau LED. Mae chwech chylch o bapur wedi'i dorri'n denau yn crychdonni yn yr awel a gynhyrchir gan ffaniau.

Lamplenni pecyn-fflat papur

2023

Mae Teleri wedi bod yn arbrofi hefo creu lamplenni pecyn-fflat papur, hefo’r bwriad gwreiddiol o werthu'r lamplen Fluid Shade. Nid yw hi eto wedi addasu’r lamplen Fluid Shade yn gynnyrch pecyn-fflat, ond mae hi wedi datblygu lamplen fasnachol pecyn-fflat silindr. Trwy ychwanegu 'dannedd' i du allan y ffrâm pren-ply crwn, gellir cysylltu'r dalennau papur heb lud na phlastig. Mae’r dull yn creu arwyneb lle fedrith torri gwahanol ddarluniau a siapiau symbolaidd sydd wedi'u hysbrydoli gan natur.

8.JPG
3.3.JPG

Cefnfor o Oleuni

2022

Bu Teleri yn un o ddeg myfyriwr ôl-raddedig Celfyddydau a’r Dyniaethau a chafodd eu gwobrwyo hefo Bwrsari Diwylliannol Dr Lee Kai Hung CBE yn 2022. O ganlyniad archwiliodd Teleri'r berthynas rhwng golau, Taoaeth a dylunio. Cyfrannodd ei hymchwiliadau at Fluid Shade ac arweiniodd hefyd at y lamplen Cefnfor o Oleuni. Gan ddefnyddio torrwr laser i greu motiffau Tsieineaidd sydd yn symboleiddio bywyd y môr, cynhyrchodd hi lamplen papur a allai leihau'r plastig sydd yn diweddu yn ein cefnforoedd.

LEA_Ocean of Light_8.jpg
LEA_Ocean of Light_6.jpg
bottom of page