top of page

Lamplen papur minimalaidd sy'n creu awyrgylch lleddfol. Wedi'i wneud fesul un o ddeunyddiau ailgylchadwy, mae gan y cynnyrch di-blastig hwn ôl-troed ecolegol isel. Mae lliw gwyn y papur sy'n wynebu tuag allan wedi ei wneud â grawn, gan ddod â gwead naturiol i'r lamplen geometrig. Wedi'i wneud mewn melin sy'n cael ei phweru 75% gan ynni adnewyddadwy, mae'r papur allanol wedi ei greu heb glorin ac wedi'i ardystio gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd. Mae'r dalennau papur yn cael eu gwehyddu gyda'i gilydd gan ddefnyddio nodwyddau wedi'u gwneud 100% o bapur cywarch.

 

Mae'r dalennau mewnol o bapur tryloyw yn meddalu’r golau o’r bwlb noeth ac yn cynhesu ansawdd y golau sy’n tarddu o’r lamplen. Mae'r patrwm bloc yn uno’r ffrâm a’r silindr papur ac yn cynnig steil cyfoes i'ch ystafell wely, ystafell fyw, neu ystafell astudio.

 

Mae Block Shade yn defnyddio dull bachyn a rhigol arloesol i ymuno’r ffrâm pren-ply a’r silindr papur ac yn cael gwared â’r angen am lud neu blastig. Bydd y cyfarwyddiadau cam-wrth-gam yn eich galluogi i droi'r dyluniad pecyn-fflat hwn yn gynnyrch cyflawn.

 

Dimensiynau

diamedr cylch mewnol: 3 cm

diamedr y lamplen gyfan: 24.5 cm

hyd y lamplen: 29.5 cm

 

Wedi'i gynnwys yn y pecyn:

2 x tudalen o bapur patrymog allanol 

2 x tudalen o bapur tryloyw 

4 x nodwydd wedi eu gwneud 100% o bapur cywarch

1 x ffrâm pren-ply

1 x taflen gyfarwyddiadau ar gyfer creu, gosod a defnyddio’r lamplen

 

Pa fath o fwlb golau a gosodiad sydd eu hangen?

Mae Block Shade yn medru cael ei gosod i’r nenfwd, unai gyda Edison Screw neu Bayonet Cap. Rydym yn argymell defnyddio bylbiau LED 6 i 9-wat sydd yn mesur 6cm o led neu lai (nid oes bwlb nag gosodiadau trydanol yn y pecyn).
 

Diogelwch tân

Mae'r ffrâm pren-ply wedi'i drochi mewn hylif gwrth-dân. Mae bwlch o leiaf 8cm rhwng y silindr-papur a'r bwlb, os defnyddir bwlb LED 6cm o led (neu lai).

 

Ail-gylchu

Gellir ailgylchu’r dalennau papur patrymog a thryloyw a’r nodwyddau cywarch yn y biniau ailgylchu cartref, a gellir mynd â’r ffrâm pren-ply i Ganolfan Ailgylchu leol (cyngor i drigolion y DU yw hwn; edrychwch am yr opsiynau ailgylchu perthnasol yng ngwledydd eraill).

Block Shade

£45.00Price
  • Lamplen papur, gwyn hefo gwead naturiol, lamplen silindr, dyluniad pecyn-fflat, eco-gyfeillgar, unigryw - ar gyfer eich ystafell wely, ystafell fyw neu ystafell astudio.

bottom of page