top of page

Sut fedrith celf gyfrannu at leddfu pryder?

Updated: Feb 4, 2019


Mae yna nifer o wahanol fathau o bryder; o bryder cymdeithasol i bryder sydd yn ganlyniad i drawma. Gall effeithio ar bob rhan o fywyd neu medrith fod yn deimlad aciwt sydd yn achosi straen achlysurol. Mae’r math o bryder sydd gennym yn effeithio ar y math o amgylchedd sydd yn llesol i ni.


Wrth gwestiynu sut gall y byd celf gyfrannu ar leddfu pryder, mae’n ddefnyddiol ystyried y gofodau creadigol sydd ar gael. Mae’r galeri yn lle amlwg i gychwyn ac mae’n cynnig y posibiliad o greu gwaith ar ‘lechen lan’. Ond dydi’r galeri ddim yn lle hollol niwtral. Gall eu waliau gwyn a’u ffurf sgwâr fod yn oeraidd a diwydiannol. Gall hefyd gael cynodiadau elitaidd ac anhygyrch. Felly sut fedrwn fuddsoddi o’u gofod gwag er mwyn creu profiad deniadol?


Cyn sylweddoli'r cysylltiad rhwng creu profiadau llesol a fy ngwaith celf fy hun, fy math orau o gelf oedd y gosodiadau trochiadol artistiaid fel Olafur Eliasson a James Turrell. Mae eu defnydd o olau a'u gallu i greu profiadau arddunol wedi bod yn ysbrydoliaeth dros y blynyddoedd diwethaf. Wrth weld ‘The Weather Project’ gan Eliasson yn y Tate Fodern yn 2003, cefais fy syfrdanu gan bŵer celf i gynyddu ein gwerthfawrogiad o’r byd naturiol. Mae Turrell yn enwog am ei dawn i ymgysylltu’r gynulleidfa hefo’r effaith mae golau a lliwiau yn cael ar y ffordd rydym yn gweld ein hamgylchedd. Hefo’i gefndir fel Crynwr, mae eu hadeiladweithiau yn llefydd heddychlon a democrataidd.


Roedd gennai ddiddordeb clywed beth oedd teimlad bobl eraill o waith Eliasson a Turrell. Cyflwynais lun o un o 'Skyspaces' Turrell a llun o’r ‘The Weather Project’ gan Eliasson i gwpwl o bobl i weld beth oedd eu hymateb wrth ystyried pa mor llesol oedd y cynyrchiadau mewn perthynas â phryder. Gofynnais iddynt sgorio'r darnau o 1 i 5, rhwng 1-llesol a 5-creu straen.


Sgoriodd gwaith Turrel yn 2-eithaf llesol a 3-canolog. Roedd y cyfranogwyr yn sylwi y bysa hi’n bosib i’r gwaith fod yn heddychlon ac yn helpu ymlacio ond gall hefyd creu teimlad o fod yn sownd mewn gofod fel ffynnon. Mae hyn yn cyfeirio at botensial y gwaith ond yn tynnu sylw at eu cyfyngiadau. Mae’r gwaith yn aml wedi eu sefydlu yn yr awyr agored ac wedi eu gwneud o ddeunyddiau caled fel cerrig. Gall hyn achosi iddo deimlo ychydig yn oeraidd wrth i ni graffu i edrych i fyny at yr agoriad i’r awyr.


Sgoriodd gwaith Eliasson yn 1-llesol a 2-eithaf llesol. Dywedodd un cyfranogwr ei bod nhw’n chwilfrydig am yr haul a'i bod o’n creu awyrgylch cynnes. Sylwodd un arall fod y niwl yn edrych yn hwyl. Er graddfa enfawr ‘The Weather Project’, llwyddodd Eliasson greu profiad oedd yn arddunol ac yn agos at y gynulleidfa. Credaf fod hyn yn holl bwysig; i gynnig profiad gall achosi i’r unigolyn trosi eu poeni a sicrhau fod gradd y gwaith ddim yn codi ofn.


Wrth sgwrsio hefo cyfranogwr trafodwn berthynas natur a phryder. Roeddynt yn esbonio sut gall natur lleddfu pryder ond fod ei ffurf anferthol yn medru hefyd codi ofn. Roedd hyn yn arwain i mi ail feddwl am fy niffiniad o fudd natur i bryder. Dwi reit barod i gynnig natur fel ateb ond mae rhaid ystyried pa rannau ohono sydd yn sbarduno pryder. Roeddem hefyd yn trafod y math o lefydd a sefyllfaoedd sydd yn creu pryder a bod adegau lle mae sylw grŵp o bobl wedi eu ffocysu ar unigolyn yn medru fod yn anodd. Gall hyn egluro pan fod profiadau sydd yn denu’r sylw at fawredd yr amgylchedd, ac i ffwrdd o’r unigolyn, yn medru fod yn llesol.

0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page