Pryder, Celf a Natur
Mae Prosiect Pryder wedi bod yn brosiect ymchwil sydd wedi ei ariannu gan grant Ymchwil a Datblygu i Unigolion Creadigol Proffesiynol Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r grant yn rhoi’r cyfle i artistiaid datblygu syniadau newydd ac i gyd-weithio hefo person neu sefydliad creadigol. Dwi wedi bod yn cyd-weithio hefo’r pensaer ac yr artist Huw Meredydd Owen.
Tri phrif nod y prosiect oedd dylunio gofodau sydd yn lleddfu pryder, datblygu gosodiadau sydd yn manteisio ar rinweddau therapiwtig natur a datrys heriau adeiladwaith creu gwaith ar raddfa fawr.
Er mwyn dylunio gofodau sydd yn lleddfu pryder, roedd hi’n bwysig i mi hel ymatebion at wahanol fathau o ofodau gan bobl sydd yn dioddef o bryder. Roedd gennai fy syniadau fy hun am y math o lefydd sydd yn lleddfu fy mhryder i ond roeddwn i’n awyddus i ddarganfod be fysa ymatebion pobl arall at y llefydd hyn. Gofynnais i’r cyfranogwyr sgorio nifer o ddelweddau allan o 5, hefo 1 yn llesol a 5 yn achosi straen.
Dwi wedi hel ymatebion 35 o gyfranogwyr i holiadur delweddau ac ymatebion 47 o gyfranogwyr i holiadur ysgrifenedig. Roedd rhan fwyaf o’r bobl yma wedi ymateb ar-lein i ddelweddau o fy ngwaith fy hun a dwi wedi sgwrsio wyneb yn wyneb hefo tri o bobl am natur eu pryder a'u hymateb i ddelweddau o waith bobl arall.
Rhain oedd y delweddau oedd yn sgorio yn fwyaf llesol. Mae’r canlyniad yma wedi achosi i mi ystyried beth yw rôl yr oriel gelf, mewn cymhariaeth a gofod mwy cartrefol.
Wrth ystyried pa fath o waith celf i’w greu mae nifer o ffactorau gwahanol i’w hystyried. I ddechrau mae yna’r teimlad gwreiddiol, yr ysbrydoliaeth gychwynnol. I mi mae’r ysbrydoliaeth wedi bod yn rhywbeth sydd wedi cynyddu dros amser; trwy brofiadau arddunol natur. Mae rhai o’r profiadau yma o fy mhlentyndod ac wedi eu tanlinellu gan syfrdandod o deimlo’n rhan o’r bydysawd ehangach am y tro cyntaf. Dwi rŵan yn deall fod y profiadau yma wedi cael hyd yn oed mwy o effaith oherwydd fy mherthynas hefo pryder a fy ansicrwydd cymdeithasol. Mae natur yn le fedrai cael persbectif gwahanol ar fy mywyd.
Os mae natur arddunol yw fy mhrif ysbrydoliaeth sut fedraf eu defnyddio i greu gwaith sydd yn gweddu at gyd-destun unigryw'r oriel gelf?
Dwi wedi dadansoddi gwaith artistiaid sydd yn berthnasol i fy ngwaith fy hun. Mae'r artistiaid yma yn rhai sydd yn creu gosodiadau trochiadol ar raddfeydd mawr. Dwi'n teimlo mae'r math yma o waith sydd yn fwyaf tebyg o fedru symboleiddio'r profiad uniongyrchol natur a'u gallu i achosi i berson trosi ei phoeni.
Gall gwaith minimalydd cael teimlad o egni iddo, ac mae eu mawredd yn symboleiddio egni’r bydysawd. Yn aml mae gwaith fel hyn hefo arwynebau caled sydd yn medru creu teimlad deinamig o lif egnïol. Mae strwythurau clir yn dyblygu rhinweddau diffiniedig y byd naturiol ac mae eu hochrau anesmwyth yn fy atgoffa fod bywyd yn beryg ac yn hardd.
Gofynnais i bobl sgorio a cynnig eu sylwadau ar ddelweddau o fy ngwaith blaenorol am eu bod yn cynnwys technegau rwyf wedi bod yn awyddus i’w datblygu.
Hwn yw’r darn sydd wedi sgorio fel yr un mwyaf llesol, hefo pobl yn dweud ei bod yn:
+ Ymlaciol iawn. Ffordd da o newid ystafell gonfensiynol i le myfyrio
+ Heddychlon
- Dibynnu faint o bobl sydd o gwmpas. Gall fod yn glosterffobig os yw’n brysur
Hwn yw’r darn sydd wedi sgorio fel yr un lleiaf llesol. Mae o hefyd yn enghraifft o ba mor gyferbyniol fedrith ymatebion bobl fod at ddarn o waith:
+ Y siapiau syml, y deunyddiau a’r golau yn creu teimlad eco friendly, parch at y byd naturiol.
- Mae o fel ti’n disgyn fewn i’r twll ac mae’r siâp yn atgoffa fi o gyfalafiaeth a phres.
Un o brif amcanion y prosiect oedd datrys heriau adeiladu gwaith ar raddfa fawr. Roeddwn i’n awyddus i greu dyluniadau newydd ar gyfer gwaith gall lleddfu pryder ac adeiladu ar fy ngwaith blaenorol. Creais gyfres o ddyluniadau ar Sketchup. Mae hi wedi bod gwerth treulio’r amser yn dod i nabod y meddalwedd er mwyn creu drafftiau o ofodau er mwyn eu creu mewn persbectif a medru symud o’u cwmpas.
Mae gennai ddiddordeb mewn creu gofodau sydd yn grwn neu heb ormod o gorneli gan fod o’n medru symboleiddio’r gorwel diderfyn. Ac mae gennai diddordeb yn ffordd gall ymwybyddiaeth o’r bydysawd ehangach leddfu rhai pryderon. Ond efallai dydi’r math yma o brofiad ddim o hyd yn bwrpasol i rywun sydd yn dioddef o bryder aciwt.
Mae hwn wedi ei ysbrydoli gan waith mawr James Turrell. Wrth ddylunio'r gofodau yma dwi’n ymwybodol eu bod nhw ddim yn llefydd all cael eu haddasu’n hawdd i’w rhoi mewn gofodau llai. Felly dwi’n awyddus i ddatblygu lamplenni fysa’n medru cael eu prynu gan bobl a’u rhoi yn eu cartrefi. Ar gyfer y darn yma roedd gennai ddiddordeb gweld os oedd graddfeydd o liwiau yn medru codi sylw rhywun i fyny at yr awyr.
Dwi wedi defnyddio tannau dipyn o’r blaen ond wedi trafferthu eu defnyddio ar raddfa fawr. Roeddwn i’n benderfynol o ddatrys ychydig o’r heriau adeiladwaith. Roedd hwn yn syniad gesi i ar gyfer ffrâm posib ond dydw i ddim yn siŵr pa mor ymarferol ydi o.
Roeddwn yn awyddus i greu effaith yr awyr a chymylau a diddordeb mewn creu arwynebedd oedd ddim yn hollol fflat - ond roeddwn i’n gweld fy hun yn mynd yn rhu pell hefo’r cysyniadau a doeddwn i ddim hefo’r sgiliau i ddatblygu’r ochor ymarferol a realistig y gwaith.
Esi i weld saer coed a gwneuthurwr i weld os bysant nhw’n medru rhoi ychydig o syniadau mwy ymarferol i mi. Ar ôl sgwrsio dipyn am beth fysa’n bosib, creais dyluniad wedi ei seilio ar ddarn o waith blaenorol oedd wedi gweithio yn eithaf da ar raddfa lai.
Penderfynais fysa hi’n well i’r fframwaith fod yn sgwâr er mwyn i mi fedru treialu gwahanol syniadau tu fewn iddo fo. A fysa fo’n syniad iddo fo fedru dod yn ddarnau er mwyn eu symud i wahanol lefydd.
Wrth i mi adlewyrchu ar ganlyniadau’r holiaduron, maen nhw wedi tanlinellu pa mor oddrychol yw ein perthynas ni hefo pryder, celf a’r byd natur.
Mae cyd-destun oriel gelf hefo llawer o gynodiadau sydd yn wahanol i, er enghraifft gofod mewn ysbyty, lle gwaith neu dŷ preifat. Er bod ei waliau gwyn yn lleihau'r nifer o bethau gall tynnu sylw’r gynulleidfa o’r gwaith celf mae o hefyd creu disgwyliadau i’r gwaith fod o safon uchel.
Ond mae safonau pawb yn wahanol gan fod profiadau bywyd pawb yn wahanol. Mae hyn yn effeithio be ydi eu safbwynt o gelf, be maen nhw’n licio a be dydyn nhw ddim. Mae hyn hefyd yn effeithio ar ba fath o lefydd sydd yn sbarduno neu’n lleihau eu pryder.
Cwestiwn gwreiddiol y prosiect oedd: sut gall gosodiadau celf leddfu pryder? Dwi’n teimlo erbyn hyn fod lleoliad neu ofod yn un o nifer o ffactorau gwahanol sydd angen eu haddasu er mwyn lleddfu pryder. Mae ffactorau eraill yn medru cynnwys deinamics mewn perthnasau, hunan-credoau, safon bywyd, statws cymdeithasol, i enwi rhai.
Dwi’n credu mai’r orielau gelf yw’r lle i greu gosodiadau cysyniadol am eu bod hefo cyd-destun sydd yn wahanol i ofod therapiwtig. Mae’r proses yma wedi helpu i mi weld beth yw fy mlaenoriaeth bersonol a beth gallaf gynnig sydd yn unigryw;
sef y nod o greu gwaith celf sydd yn symboleiddio natur arddunol. A'r gobaith fod y profiadau dwi'n eu greu yn medru helpu i bobl trosi eu pryder.
Comments