top of page

Gosodiadau goddefol neu weithredol?

Updated: Mar 6, 2019

Yn ystod y prosiect ymchwil hwn byddaf yn cyd-weithio hefo’r pensaer ac yr ymarferydd creadigol Huw Meredydd Owen. Mae gwaith a diddordebau Huw yn berthnasol i’r prosiect am ei fod hefo ddiddordeb mewn ystyried arwyddocâd ‘lle’, a’i fwriad i wahodd y sylwedydd i brofi’r stori y tu ôl i’r lle.


Mae Huw yn ystyried sut fedrith y gymuned dehongli a chynllunio ‘llefydd’ penodol. Mae hyn wedi arwain iddo weithio y tu allan i gyfyng furiau pensaernïaeth arferol, gan leihau'r pwyslais ar yr hyn a adeiledir, ac ymchwilio i werth y goddrychol a'r hyn a ddaw drwy brofiad.


Fel pensaer mae Huw yn arbenigo mewn siapio gofodau er budd y cyhoedd ac yn rhoi anghenion y defnyddwyr yn gyntaf. Fel artist rwyf yn archwilio fy mhrofiadau personol er mwyn dadansoddi eu hachosion i geisio cynnig profiadau positif i bobl eraill. Trwy gyfuno ein dau faes o arbenigedd, gobeithiwn ddylunio llefydd sydd yn bersonol, yn hygyrch ac yn hardd.


Yn ystod ein cyfarfod gyntaf ar gyfer Prosiect Pryder, trafodwn natur ein cydweithrediad a beth yw ein cyfrifoldebau. Gan fod y grant wedi ei rhoi i mi er mwyn cynnal prosiect ymchwil a datblygu fel unigolyn creadigol, cytunwn mai rôl mentor a ffrind beirniadol y bysa Huw. Rwyf hefyd yn awyddus i fuddsoddi o’i arbenigedd dylunio am fy mod wedi cael trafferth wrth greu gosodiadau ar raddfeydd mawr.


Mae ein sgyrsiau yn aml yn troi yn athronyddol ac mae Huw yn wych wrth iddo gwestiynu beth yw’r ffordd orau o greu profiad i’r gynulleidfa. Un o’r cwestiynau cododd o’n sgwrs Prosiect Pryder gyntaf oedd y gwahaniaeth rhwng cynhyrchiad sydd yn oddefol a chynhyrchiad sydd yn weithredol. Awgrymodd Huw fod profiad goddefol yn cael eu cynnig pan mae’r dylunydd yn creu gosodiad ble mae’r gynulleidfa yn wylwyr yn hytrach nag yn gyfranogwyr. Gall profiad gweithredol fod yn fwy atyniadol wrth iddo ymgysylltu hefo’r gynulleidfa mewn ffordd uniongyrchol. Wrth ystyried y ddau ddull a’u perthnasedd at ofodau sydd yn lleddfu pryder, fedraf feddwl am agweddau positif a negyddol i’r ddau.


Coeliaf fod hyn yn dibynnu ar y math o bryder sydd gan yr unigolyn. Os mae person yn teimlo ei bod nhw’n cael ei gorfodi i gymryd rhan hefo gosodiad gweithredol, efallai fod gosodiad goddefol yn well iddynt. Ond gallai lethu'r gynulleidfa os ydynt yn teimlo'n ddi-rym a heb y cyfle i ymateb neu altro’r gwaith.


Mae gosodiad gweithredol yn gofyn i’r gynulleidfa rhannu rhywbeth o’u hunain er mwyn cael y mwyaf o’r profiad, gall hyn achosi i’r unigolyn trosi eu pryder wrth iddynt ganolbwyntio ar weithred ysbrydoledig allanol. Ond mae beth sydd yn ysbrydoli rhywun yn wahanol o berson i berson ac mae rhaid meddwl yn ofalus wrth ddylunio’r elfen weithredol er mwyn eu gwneud yn hygyrch i bawb.


Agwedd arall trafodwn yw sut gall gosodiad celf cynnig teimlad sydd yn debyg i fod yn natur. Mae treulio amser yn natur yn lleihau fy lefelau pryder a dros y blynyddoedd diwethaf dwi wedi creu modelau a gosodiadau sydd yn ymchwilio sut fedraf greu deimlad o ymylon diderfyn y byd naturiol.


Cromlin llinyn drafft 1 - Lea, 2019

Rwyf wedi defnyddio llinyn, golau a phapur i ddatblygu’r rhinweddau hyn. Un o’r dyluniadau rwyf wedi ei greu ar gyfer Prosiect Pryder yw ar gyfer darn o waith ar raddfa fawr sydd yn defnyddio llinyn. Awgrymodd Huw fod yna rhywbeth anhysbys am ein profiad o natur a gall defnyddio llinynnau sydd yn gorgyffwrdd ac yn symud fod yn ffordd o symboleiddio y hud a dirgelwch hyn. Wrth dreialu dwysedd, strwythur a deunyddiau'r gwaith o fewn modelau bach a digidol, fedraf arbrofi hefo ffordd ymarferol o gyfleu profiad arddunol.

0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page