
Cyfres Bachyn a Rhigol


















Fframwaith Dylunio Cyffredin
]
Mae’r gyfres hon yn cynnig addasiad newydd i’r lamplen silindr gan ddefnyddio dyluniad bachyn-a-rhigol sy'n osgoi’r angen am lud neu blastig wrth ei roi at ei gilydd. Mae pedair tudalen o bapur (dau dryloyw a dwy afloyw) yn cael eu gweu gyda'i gilydd hefo nodwyddau wedi eu creu o bapur papur o gywarch 100%, cyn eu gosod ar ffrâm pren-ply.
]
Nod y casgliad yw dod â chynhesrwydd a soffistigeiddrwydd i’ch lleoliad, boed hynny yn eich llofft, lolfa, neu stiwdio. Mae’r dyluniadau yn gyfoes, minimalaidd a hefyd yn addurniadol, tra bod y golau’n pelydru drwy’r siapiau amrywiol.
Cynaliadwyedd a Chylchredoldeb
Gellir ailgylchu’r lamplen bapur a’r nodwyddau papur yn eich bin ailgylchu cartref, tra gellir mynd â’r ffrâm bren-ply i ganolfan ailgylchu leol. Mae’r ffrâm wedi ei gwneud o pren-ply o ffynonellau cynaliadwy.
Cysylltwch os oes gennych ddiddordeb brynu lamplen.
Manyldebau
Mae’r lamplen wedi’i ei rhoi at ei gilydd yn rhannol gyda chyfarwyddiadau ar sut i’w gorffen.
Cynnwys y pecyn:
1 x Lamplen Papur
2 x Nodwydd Papur
1 x Ffrâm Pren-ply (wedi’i drochi mewn hylif gwrth-dân)
1 x Taflen Gyfarwyddiadau
Dimensiynau:
29.5 cm (Hyd)
24.5 cm (Diamedr Cyfan)
Gosodiad: Addas ar gyfer gosodiadau nenfwd Sgriw Edison (E27) a Chap Bayonet (B22d).
Bylbiau: Defnyddiwch fylbiau LED yn unig (argymhellir 6W i 9W). Nid yw bylbiau a gosodiadau trydanol wedi’u cynnwys.
Derw-len
Mae siapiau dail derw yn gweddu at graen y papur ac yn creu cysgodluniau naturiol.
Papur cetris wedi'i ailgylchu 100%
Troed y Golom-len
Mae golau yn treiddio trwy’r cysgodluniau blodeuog ac yn creu siapiau diffiniedig a beiddgar.
Papur cetris wedi'i ailgylchu 100%
Deilen y Golom-len
Mae cysgodluniau cywrain dail a blodau Troed y Golomen yn dathlu’r planhigyn trwy batrwm sydd yn ailadrodd.
Papur cetris wedi'i ailgylchu 100%
Sycamor-len
Mae patrymau dail sycamorwydden yn ailadrodd er mwyn creu siapiau botanegol meddal.
Papur cetris wedi'i ailgylchu 100%
Bloc-len
Esthetig cyfoes, eglur sy’n canolbwyntio ar linellau clir a gwead y deunydd.
Papur wedi'i wneud o fwydion di-glorin (ardystiwyd gan yr FSC) a grawn bragwr wedi'i ailgylchu.
Diemwnt-len
Mae’r patrwm geometrig minimalaidd yn uno’r ffrâm a’r lamplen ac yn creu teimlad cynnes gyda chydbwysedd.
Papur sorbet wedi'i wneud yn gynaliadwy yn y DU o ffibr pur sydd yn 100% Elfennol Di-Glorin ac sydd wedi'i ardystio gan yr FSC.















































