
Fluid Shade (cyfres lliw)
Saith silindr o stribedi tenau o bapur yn hongian o fframiau geometrig cywrain. Mae amrywiaeth o liwiau cynnes yn dod â chynhesrwydd i’r gofod diwydiannol. Mae symudiad llifeiriol yr arwynebau sy’n crychdonni yn cyflwyno dimensiwn organig. Mae bylbiau trydan a heulwen yn goleuo'r lamplenni mewn patrymau cyfnewidiol o olau a chysgod.
Dyddiad​​​
Lleoliad
Deunydd
​​2022
Ysgol Gelf Manceinion
Papur, Pren haenog, Golau
Coeden o Oleuni
Crëwyd Coeden o Oleuni fel cais ar gyfer digwyddiadau a gwyliau goleuni. Mae’n defnyddio'r dulliau a ddefnyddir yn Fluid Shade, ond ar raddfa mwy, i greu profiad sy’n lleddfol a hudolus i’r gynulleidfa. Gellir arddangos un trydydd, dwy ran o dair neu goeden gyfan gan ddibynnu ar y nifer o fudiadau neu ddigwyddiadau sydd yn buddsoddi yn y prosiect. Mae ffrâm y goeden wedi ei greu o haenau o bren haenog sydd wedi ei siapio can torrwr laser ac wedi'i oleuo gan stribedi o oleuadau LED. Mae chwech chylch o bapur wedi'i dorri'n denau yn crychdonni yn yr awel a gynhyrchir gan gwyntyllwyr, tra bod cerddoriaeth amgylchynol yn chwarae.
Dyddiad​​​
Lleoliad
Deunydd
​​2023
Cerflun Rhithwir
Papur, Pren haenog, Golau

Eclips
Mae Eclips yn adeiladu ar lwyddiannau Solar (2015) wrth wella'r strwythur a'r gorffeniad. Daw cylchoedd yn thema gyson yng ngwaith Teleri wrth iddi archwilio sut y gall siapiau a llinellau minimalaidd symboleiddio pŵer a rhinweddau aruchel natur.
Dyddiad​​​
Lleoliad
Deunydd
​​2023
Cerflun Rhithwir
Papur, Pren haenog, Golau

Aur (cerflun)
Mae tannau aur ac arian yn ffurfiau waliau gloyw, tra bod goleuadau wedi eu mewnosod yn creu nenfwd o sêr. Mae Aur yn gerflun o ofod lle gall y gynulleidfa brofi math o symlrwydd tebyg i edrych ar y sêr.
Dyddiad​​​
Lleoliad
Deunydd
​​2017
Stiwdio
Llinyn Metelaidd, Pren, Golau

Gofod
Darn o waith ar raddfa fawr sy'n trawsnewid ystafell gyfan yn silindr gloyw. Mae'r papur gwyn yn cael ei oleuo gan olau naturiol ac artiffisial, gan greu arwyneb o liw graddol. Mae'r ymylon sy'n gorgyffwrdd yn ffurfio adran o ddyfnder rhwng yr awyr a'r ddaear.
Dyddiad​​​
Lleoliad
Deunydd
​​2016
Stiwdio
Papur, Pren, Golau

Linear
Mae Linear yn archwilio sut y gellir defnyddio ymylon papur syth, sydd yn gorgyffwrdd, i greu silwét crwm o arlliwiau amrywiol. Mae llinellau syth yn llai tebygol o symboleiddio nodweddion naturiol ond gallant dal fod yn lleddfol a myfyriol.
Dyddiad​​​
Lleoliad
Deunydd
​​2016
Stiwdio
Papur, Pren, Golau

Solar
Mae Solar yn talu teyrnged i egni’r haul, ei gynhesrwydd a'i allu i gynnal bywyd. Wedi'i wneud gan ddefnyddio deunyddiau rhad, hon yw waith ar raddfa fawr cyntaf Teleri, gan ddefnyddio papur a golau.
Dyddiad​​​
Lleoliad
Deunydd
​​2015
Galeri Caernarfon
Papur, Pren, Golau