top of page

Dylunio Cynnyrch

Mae Teleri yn datblygu gwrthrychau cynaliadwy trwy ddeall a diffinio anghenion y defnyddiwyr a phrototeipio a phrofi fersiynau amrywiol. Mae hi'n drafftio syniadau gyda llaw, yn defnyddio’r meddalwedd Sketchup i gynhyrchu modelau

rhithwir cyn dewis deunyddiau addas i gynhyrchu canlyniadau ffisegol. Mae Teleri yn arbenigo mewn creu eitemau papur a phren ac yn defnyddio peiriant Cricut a thorrwr laser i greu canlyniadau manwl gywir a ellir eu ailadrodd.

LEA_Fluid Shade_5_edited.jpg
LEA_Fluid Shade_2.jpg

Fluid Shade​

Mae Fluid Shade wedi'i ysbrydoli gan rinweddau naturiol a therapiwtig golau, cysgod a symudiad. Mae tair haen o stribedi papur yn hongian o ffrâm bren haenog. Wrth i awel ysgafn symud y stribedi papur, mae patrymau hudolus a llifeiriol yn cael eu creu. 

​​Dyddiad

Lleoliad

Deunydd

2022

Stiwdio

Papur, Pren haenog, Golau

Lamplenni papur pecyn-fflat

Mae'r lamplenni papur pecyn-fflat yn defnyddio dyluniad arloesol bachyn a rhigol sy'n osgoi’r angen am lud neu blastig wrth ei adeiladu. Mae dalennau o bapur yn cael eu gwehyddu gyda'i gilydd gan ddefnyddio nodwyddau papur cyn eu gosod ar ffrâm bren haenog. Mae amrywiaeth o ddyluniadau ar gyfer arwyneb y lamplen, rhai geometrig a rhai wedi eu hysbrydoli gan blanhigion. Gellir eu gweld yn y siop

​​Dyddiad

Lleoliad

Deunydd

2023

Stiwdio

Papur, Pren haenog, Golau

8.JPG
3.3.JPG

Cefnfor o Oleuni

Derbyniodd Teleri Fwrsari Diwylliannol Dr Lee Kai Hung CBE er mwyn archwilio’r perthynas rhwng golau, Taoaeth a dylunio. Yn ystod y prosiect datblygodd Cefnfor o Oleuni, lamplen sy'n defnyddio motiffau Tsieineaidd i symboleiddio bywyd y môr.

​​Dyddiad

Lleoliad

Deunydd

2022

Stiwdio

Papur, Pren haenog, Golau

LEA_Ocean of Light_8_edited.jpg
LEA_Ocean of Light_6_edited.jpg
bottom of page