top of page


Mae Teleri yn artist electronig o Gymru sydd wedi bod yn creu cerdd ers iddi gyntaf cael ei hudo gan natur arddunol Meirionydd. O ganu mewn cae i greu cerdd dawns ar ei laptop, er bod y broses yn wahanol, mae’r breuddwyd dal yr un peth: i efelychu'r teimlad o ryddid ac i fynegi ei phrofiadau personol.
Ers Ionawr 2020, mae Teleri wedi rhyddhau chwe thrac electronig disglair ac mae hi wedi crafftio dull sydd yn galluogi iddi sgwennu, creu a chynhyrchu’r traciau o’i chartref. Mae hi hefyd yn artist gweledol ac yn arbrofi hefo creu fideos gall eu taflunio yn ystod set byw. Mae hi’n awyddus i greu profiadau trychiadol i’r gynulleidfa ac i’w ffrydio ar-lein a’i chware’n fyw!
bottom of page